“Ym mis Rhagfyr 2018, gweithiodd Tîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Petra Publishing gyda disgyblion Ysgol Gynradd Blenheim Road i gynhyrchu llyfr o’r enw Billy yr Arwr.
Mae’r llyfr yn adrodd stori bachgen sy’n dwlu ar arwyr ac sy’n cael ei ysbrydoli i fod yn feddyg ar ôl gweld y ffordd mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn gofalu am ei fam-gu. Mae’r llyfr yn cyflwyno’r pwnc iechyd a gofal cymdeithasol i blant, y rôl bwysig y mae’n ei chwarae yn ein bywydau, ac yn amlygu ymroddiad ac ymrwymiad y rhai sy’n gweithio yn y sector.
Mae’r llyfr yn cynnwys darluniau gwych Andy O’Rourke ac mae rhai o’r darluniau hyn bellach ar gael i’w lawrlwytho a’u lliwio. Rydym yn gobeithio y bydd y lluniau gwych hyn yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gwent.
Os hoffech brynu copïau o’r llyfr ewch i: https://www.petrapublishing.org/ a gadael neges iddyn nhw. Bydd yr holl elw yn helpu i ariannu teitlau’r dyfodol.
Lliwio hapus!”
Chris Hooper
Swyddog Hwyluso ac Ymgysylltu
Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf